Edward Gordon Douglas-Pennant, Barwn 1af Penrhyn
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Edward Gordon Douglas-Pennant, Barwn 1af Penrhyn, neu Yr Hen Lord ar lafar yn ardal Bethesda, (20 Mehefin 1800 - 31 Mawrth 1886) oedd y Barwn Penrhyn cyntaf o'r ail greadigaeth.
Ganed ef yn Edward Gordon Douglas, o deulu uchelwrol Douglas yn yr Alban. Pan fu farw Richard Pennant, Barwn 1af Penrhyn yn 1808 dilynwyd ef gan ei gefnder, George Hay Dawkins (1763-1840). Roedd Douglas yn briod a merch Dawkins, Juliana, ac enwyd ef a Juliana fel cyd-etifeddion yr ystad ar yr amod eu bod yn cymeryd y cyfenw Pennant. Newidiodd ei enw i Douglas Pennant yn 1841.
Gwnaed ef yn Farwn Penrhyn yn 1866. Roedd wedi bod yn Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon ers chwarter canrif pan wnaed ef yn Farwn, a rhoi'r gorau i'w sedd i fynd i Dŷ'r Arglwyddi.
Bu'n gyfrifol am dŵf enfawr yn Chwarel y Penrhyn, a gwnaeth y chwarel yntau yn ŵr cyfoethog dros ben. Yn 1859 amcangyfrifodd y Mining Journal fod Chwarel y Penrhyn yn gwneud elw o £100,000 y flwyddyn.
Er iddo fod mewn anghydfod a'r chwarelwyr nifer o weithiau, yn enwedig yn 1874 yn dilyn ffurfio Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru, ystyrid ei fod ef yn barotach i wrando ar ei weithwyr nag oedd ei fab, George Sholto Gordon Douglas-Pennant, 2ail Farwn Penrhyn, a'i olynodd.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1953).