Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 2006
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe a'r Cylch 2006 ar hen safle Gwaith Dur Felindre ychydig oddi ar draffordd yr M4. Ymhlith pynciau llosg yr Eisteddfod oedd y penderfyniad i ddileu seremoni'r Cymru a'r Byd a bu cryn dipyn o feirniadu hefyd ar wyneb carregog y maes. Roedd y pafiliwn yn un pinc llachar yn wahanol i'r un arferol o streipiau glas a melyn. Roedd wedi ei gynllunio ar gyfer un o ymgyrchoedd elusen cansyr y fron a chytunodd yr Eisteddfod i'w gael yn lle'r un arferol.
Am y tro cyntaf yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol Archesgob Caergaint Y Parchedicaf Dr Rowan Williams a anerchodd y gynulleidfa yng ngwasanaeth agoriadol yr Eisteddfod fore Sul. Mae Rowan Williams yn hannu o Abertawe.
Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
---|---|---|---|
Y Gadair | Tonnau | Gwenno | Gwynfor ab Ifor |
Y Goron | Fflam | Gwyfyn | Eigra Lewis Roberts |
Y Fedal Ryddiaith | Atyniad | Matigari | Fflur Dafydd |
Gwobr Goffa Daniel Owen | Dygwyn Eneidiau | Ebolion | Gwen Pritchard Jones |
Tlws y Cerddor | Dadeni | Johannes | Euron J. Walters |
Enillydd y gadair oedd Gwynfor ab Ifor o Sling ger Tregarth ar y thema Tonnau. Roedd yn derbyn hefyd wobr ariannol o £750.00. Dyluniwyd y gadair gan Elonwy Riley o Lansawel, Llandeilo ac fe'i gwnaethpwyd gan Tony Graham a Paul Norrington yng Ngholeg Sir Gâr. Enillydd o goron oedd Eigra Lewis Roberts am ei gwaith Y Ffarwel Perffaith a oedd am fywyd cythryblus Sylvia Plath.Y beirniaid oedd Menna Elfyn, Damian Walford Davies a Gwyneth Lewis. Roedd y goron wedi ei chyflwyno er cof am y cyn-Archdderwydd, Dafydd Rowlands. Enillydd y Fedal Ryddiaith oedd Fflur Dafydd o Gaerfyrddin am ei gwaith Atyniad.Y beirniaid oedd Derec Llwyd Morgan, Jane Aaron a Grahame Davies. Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen oedd Gwen Pritchard Jones o Bant Glas. Dyma ei nofel gyntaf i oedolion. Enillydd Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn oedd Stuart Imm o Gwmbrân ac sydd bellach yn diwtor Cymraeg.
[golygu] Ffynhonnell
Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe a'r Cylch 2006, ISBN 1 84323 765 2