Fulgencio Batista y Zaldivar
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Fulgencio Batista y Zaldivar (1901-1973) yn wleidydd o Cuba.
Batista oedd arlywydd Cuba o 1940 hyd 1944 pan gollodd rym. Dychwelodd i rym yn 1952 trwy coup milwrol ac roedd yn arlywydd y wlad am yr ail dro o 1954 i 1958.
Roedd ei lywodraeth yn un asgell dde a gorthrymus a chynyddai ei wrthwynebwyr. I nifer o Giwbanwyr roedd Batista wedi gwerthu ei wlad i'r Maffia. O'r diwedd cafodd ei ddisodli gan y chwyldroadwyr dan arweinyddiaeth Fidel Castro a Che Guevara a ffoes i'r Unol Daleithiau.