Gerardus Mercator
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cartograffydd o Ffleminiad oedd Gerardus Mercator, né Gerhard Kremer (5 Mawrth, 1512 - 2 Rhagfyr, 1594), a aned yn Fflandrys o rieni Almaenig.
Cafodd ei addysg ym mhrifysgol Louvain. Cyflogodd yr Ymherodr Glân Rhufeinig Siarl V Fercator i wneud mapiau at ddefnydd milwrol ac wedi hynny fap o Fflandrys ei hun.
Yn 1552 ymsefydlodd yn Duisburg, ar ôl cael ei gyhuddio o heresïaeth yn 1544 a gorfod ffoi Fflandrys, a chafodd ei gyflogi gan Dug Cleves. Treuliodd weddill ei oes yn gwneud mapiau.
Yn 1568 dyfeisiodd y system taflunio, paralelau a meridionau ar gyfer llunio mapiau sy'n dal i ddwyn ei enw o hyd (Tafluniad Mercator).
Cafodd ei fapiau eu cyhoeddi mewn llyfr arbennig ac fe'i galwyd yn "atlas" am ei fod yn dangos llun o'r arwr chwedlonol Atlas yn dwyn i fyny'r Ddaear ar ei ysgwyddau.