Griffith Jones
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Sylfaenydd yr Ysgolion Cylchynol oedd Griffith Jones 1683 - 1761.
Yn dod yn wreiddiol o Ben-Boyr, Sir Gaerfyrddin, cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin ac wedyn ei ordeinio yn 1708.Yn 1731 dechreuodd ysgolion cylchynol. Roedd yr ysgolion mewn un man am ryw dri mis, fel arfer yn y gaeaf pan oedd amser gan y ffermwyr i fynychu'r ysgol. Roedd yr ysgol yn dysgu plant ac oedolion i ddarllen y Beibl Cymraeg ac i adrodd catecism Eglwys Loegr. Erbyn iddo farw roedd tair mil o ysgolion wedi cael eu sefydlu mewn 1600 o leoedd.
Mae'n werth nodi nad oedd wedi bod yng Nghymru unrhyw fath o gyfundrefn addysg yn Gymraeg ers difodiant y mynachlogydd.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.