Gwent
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
- Gweler hefyd Teyrnas Gwent
Mae Gwent yn sir seremonïol yn nwyrain Cymru. Roedd yn un o hen deyrnasoedd y Cymry, a bu'n sir weinyddol rhwng 1974 a 1996. Mae hanes hir o ddefnyddio'r enw am y rhan hon o Gymru ar ochr orllewinol rhan fwyaf deheuol Glawdd Offa. Mae tiriogaeth Gwent yn debyg i diriogaeth sir draddodiadol Sir Fynwy, a grewyd adeg Y Ddeddf Uno, ac am flynyddoedd byddai cyfeirio at 'Gymru a Sir Fynwy' (Wales & Monmouthshire). Yr unig wahanieth rhyngddi a siroedd eraill Cymru oedd ei bod yn rhan o gylchdaith llysoedd Rhydychen yn hytrach na Chymru.
Edrychir ar yr ardal heddiw fel ardal Seisnig ond y gwir yw yr oedd yn ardal Gymreig iawn tan ddechrau'r chwyldro diwydiannol.
Yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed ganrif yr oedd beirdd fel Guto'r Glyn a Lewis Glyn Cothi yn cael nawdd gan wýr mawr yr ardal. Cyfeiria Dafydd ap Gwilym at un o deulu'r Morganiaid Ifor ap Llywelyn fel Ifor Hael.
Gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol ffurfiwyd nifer o gymdeithasau Cymraeg yng Ngwent. Yr enwocaf oedd Cymdeithas y Cymreigyddion.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Siroedd a Dinasoedd Cymru | |
Dinasoedd, Bwrdreisdrefi a Siroedd gweinyddol ers 1996 |