Sgwrs Nodyn:Gwybodlen Iaith
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Beth am newid 'Rheolir gan' i 'Asiantaeth iaith' / 'Corff gweinyddol' neu rywbeth tebyg? (Neu 'Asiantaeth iaith|Rheolir gan'?). Mae'n sefyll allan mewn coch ar hyn o bryd a dydi o ddim yn gwneud llawer o synnwyr. Anatiomaros 14:31, 14 Mawrth 2007 (UTC)
- Cytuno. Asiantaeth iaith sydd orau gen i ond dim ond o fymrym. Lloffiwr 22:18, 14 Mawrth 2007 (UTC)
Ia, mae'n anodd taro ar yr enw iawn gan fod y sefyllfa'n amrywio o wlad i wlad, mae'n siwr. Beth yw ein 'Bwrdd Iaith' bach ni, er enghraifft? O ran hynny efallai fod 'Bwrdd iaith' yn well? Anatiomaros 22:35, 14 Mawrth 2007 (UTC)
- Rwyf yn eistedd fan hyn yn crafu mhen go iawn! Bwrdd Iaith yn taro'n iawn. Falle mai newid yr enw pan fydd cyd-destun y wlad yn galw yw'r peth gorau i wneud. Lloffiwr 23:13, 15 Mawrth 2007 (UTC)
[golygu] Dosbarthiad genetig
Mae'r term dosbarthiad genetig yn ymadrodd eithaf trwsgl. Beth am alw hwn yn 'achrestr ieithyddol'? Mae'n cyfleu beth sydd ei angen ac yn llai sych academaidd. Lloffiwr 18:52, 25 Mawrth 2007 (UTC)