Habib Bourguiba
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Habib Bourguiba (Arabeg: الحبيب بو رقيبة), enw llawn Habib Ben Ali Bourguiba (?3 Awst, 1903 - 6 Ebrill, 2000) oedd arlywydd cyntaf Tunisia. Cafodd ei eni ym Monastir. Fe'i addysgwyd yn y Sorbonne, Paris.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Blynyddoedd cynnar a'r frwydr dros annibyniaeth
Yn 31 oed daeth Bourguiba yn arweinydd y mudiad dros annibyniaeth oddi ar Ffrainc yn Tunisia pan sefydlodd y Blaid Neo-Destour. Cafodd ei arestio yn 1938 a'i alltudio i Ffrainc. Dychwelodd i Tunisia ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd ond cafodd ei alltudio eto, i Cairo y tro yma, yn 1947. Oddi yno gweithiodd yn ddyfal i hysbysu'r byd am sefyllfa Tunisia dan reolaeth Ffrainc. Erbyn 1951 bu rhaid i Ffrainc ildio rywfaint. Treuliodd gyfnod arall mewn alltudiaeth ar ôl dychwelyd am rai misoedd i arwain llywodraeth dros dro. Arweiniodd hyn at brotestiadau ac ymosodiadau gan genedlaetholwyr ac erbyn Mehefin 1955 doedd gan y Ffrancod ddim dewis ond i adael i Bourguiba ffurfio llywodraeth led-annibynnol.
[golygu] Llywodraeth
Ar ôl ennill annibyniaeth ffurfiol (20 Mawrth, 1956) aeth ati i greu gwladwriaeth fodern yn rhinwedd ei swydd fel arlywydd cyntaf y wlad (25 Gorffennaf, 1957 - 7 Tachwedd, 1987). Roedd yn arweinydd deallus a charismatig ac yn ystod ei arlywyddiaeth tyfodd cwlt personoliaeth o'i gwmpas (enwir prif strydoedd trefi a dinasoedd Tunisia er anrhydedd iddo hyd heddiw). Roedd ei feddylfryd yn rhyddfrydig ac agored ar sawl pwnc gwleidyddol a chymdeithasol, er iddo sicrhau fod awennau'r llywodraeth yn gadarn yn ei ddwylo ei hun. Rhoddai bwyslais eithriadol ar addysg a hawliau merched a cheisiodd foderneiddio'r wlad trwy wahardd amlwreicaeth (poligami) a gwisgo'r burka gan ferched a chodi mur rhwng y wladwriaeth a chrefydd.
[golygu] Coup palas
Ond ni phlesiwyd pawb gan ei lywodraeth. I'r beirniaid rhyddfrydol doedd o ddim wedi symud digon pell i gyfeiriaid y fodel democrataidd Gorllewinol a cheid gormod o enghreifftiau o lwgrwobrwyo a nawdd wleidyddol. Tua diwedd ei oes wynebai wrthwynebiad gan nifer gynyddol o radicalwyr Islamaidd yn ogystal ac roedd y wlad yn wynebu argyfwng. Syrthiodd yn wael iawn ac roedd ei afael ar y llywodraeth yn llac. Roedd ei benderfyniadau'n eratig. Yn y diwedd cafodd ei ddisodli gan ei olynydd Zine el-Abidine Ben Ali, y Gweinidog Cartref penderfynol, mewn amgylchiadau amheus pan arwyddwyd tystysgrif gan griw o feddygon yn tystio ei fod yn rhy wael i fynd ymlaen (ac un o'r meddygon yn protestio nad oedd wedi gweld y claf ers dwy flynedd).
[golygu] Etifeddiaeth
Cafodd Bourguiba ei gadw o'r golwg yn y palas arlywyddol yn Carthage Présidence, ger Tunis, ac oddi yno i balas arall ym Monastir lle bu farw ar 6 Ebrill 2000. Codwyd beddrod marweddog iddo ym Monastir, ei ddinas enedigol, ar ôl ei farwolaeth. Roedd y mwyafrif o bobl Tunisia yn ei barchu'n fawr. Roedd wedi arwain ei wlad i annibyniaeth, creu system gweddol ddemocrataidd, gosod sylfeini gwladwriaeth les, rhoi lle anrhydeddus i ferched yn y gymdeithas a datblygu economi cryf a olygodd fod gan y Tunisiaid safon byw ymhlith y gorau yn y byd datblygol.
[golygu] Llyfryddiaeth
Mae'r rhan fwyaf o'r cyfrolau am Bourguiba yn llyfrau Ffrangeg:
- Driss Abbassi, Entre Bourguiba et Hannibal. Identité tunisienne et histoire depuis l’indépendance, Karthala, Paris, 2005 (ISBN 2845866402)
- Tahar Belkhodja, Les trois décennies Bourguiba. Témoignage, Publisud, Paris, 1998 (ISBN 2866007875)
- Sophie Bessis (avec la collaboration de Souhayr Belhassen), Habib Bourguiba. Biographie en deux volumes, Jeune Afrique, Paris, 1988
- Habib Bourguiba, Ma vie, mon œuvre, Omnibus, Paris, 2003 (ISBN 2259014062). Hunangofiant.
- Michel Camau et Vincent Geisser, Habib Bourguiba. La trace et l’héritage, Karthala, Paris, 2004 (ISBN 2845865066)
- Mounir Charfi, Les ministres de Bourguiba (1956-1987), L’Harmattan, Paris, 2000 (ISBN 2738403980)
- Bernard Cohen, Bourguiba. Le pouvoir d’un seul, Flammarion, Paris, 1992 (ISBN 2080648810)
- Ali El Ganari, Bourguiba. Le combattant suprême, Plon, Paris, 1985 (ISBN 225901321X)
- Félix Garas, Bourguiba et la naissance d’une nation, Julliard, Paris, 1956
- Aziz Krichen, Syndrome Bourguiba, Cérès, Tunis, 2003 (ISBN 9973700732)
- Pierre-Albin Martel, Habib Bourguiba. Un homme, un siècle, Jaguar, Paris, 1999 (ISBN 2869503202)
- Samya El Méchat, Tunisie. Les chemins vers l’indépendance (1945-1956), L’Harmattan, Paris, 2000 (ISBN 2738412386)
- Mohamed Mzali, Un premier ministre de Bourguiba témoigne, Picollec, Paris, 2004 (ISBN 2864772108)
- Mohsen Toumi, La Tunisie de Bourguiba à Ben Ali, PUF, Paris, 1989
[golygu] Cysylltiad allanol
- Gwefan 'swyddogol' gan deulu Bourguiba (Arabeg / Ffrangeg / Saesneg)