Hwyaden yr Eithin
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Hwyaden yr Eithin | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ceiliog |
||||||||||||||
Dosbarthiad biolegol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Tadorna tadorna Linnaeus, 1758 |
Mae Hwyaden yr Eithin, (Tadorna tadorna), yn aelod o deulu'r Anatidae, yr hwyaid, gwyddau ac elyrch. Mae'n nythu yn rhannau gogleddol Ewrop ac Asia.
Nid yw Hwyaden yr Eithin yn aderyn mudol yng ngorllewin Ewrop, er bod adar o'r rhannau lle mae'r gaeafau'n oerach yn symud tua'r de i aeafu. Mae'n aros o gwmpas yr ardal lle mae'n nythu heblaw ddiwedd yr haf ar ôl gorffen nythu. Yr adeg honno maent yn casglu at ei gilydd i fwrw eu plu, ac mae nifer fawr, 100,000 neu fwy yn casglu ar Fôr Wadden ger arfordir gogleddol Yr Almaen. Dim ond ychydig o'r oedolion sy'n aros ar ôl i edrych ar ôl y cywion, ac weithiau gellir gweld casgliad o tua 40 - 60 o gywion yng ngofal dau neu dri o oedolion.
Mae'n nythu mewn tyllau - un ai hen dyllau cwningod neu dwll mewn coeden neu unrhyw le arall addas. Yn y gaeaf gellir eu gweld gweld ar lan y môr ac aberoedd lle bynnag mae digon o fwd lle gallant fwydo.
Gellir adnabod yr aderyn yma'n hawdd, gyda'i gorff gwyn a browngoch, pen gwyrdd (fel rheol yn edrych yn ddu) a phig coch. Mae'r rhan agosaf i'r pen o big y ceiliog yn chwyddo yn y tymor nythu.
Mae Hwyaden yr Eithin yn aderyn cyffredin o gwmpas glannau môr Cymru ac mae nifer sylweddol ohonynt yn nythu.