I Fyd Sy Well
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Nofel gan Sian Eirian Rees Davies yw I Fyd Sy Well a enillodd iddi Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005
Bu'n nofel ddadleuol. Gwnaeth Elvey Macdonald gyhuddo'r awdur o lên ladrad gan ddefnyddio brawddegau air am air neu gyda ond ychydig o newidiadau o'i lyfr Hirdaith. Trefnodd yr Eisteddfod Genedlaethol banel i ymchwilio i'r mater gan ddod i'r casgliad nad oedd gan Sian Eirian Rees Davies achos i'w ateb.
Nofel hanesyddol yw hi am y Cymry yn ymfudo i Wladfa Patagonia. Mae yn darlunio cymeriadau go iawn yr ymfudo megis Lewis Jones Patagonia, Ellen, gwraig Lewis Jones, ac Edwyn Cynrig Roberts. Mae'r awdur yn nodi yn ei chyflwyniad i'r nofel mai dychmygol yw'r holl gymeriadau ac mae wedi priodoli i'r cymeriadau nodweddion a digwyddiadau nad oes unrhyw sail hanesyddol iddynt ac mae beirniaid wedi codi'r cwestiwn i ba raddau y mae hawl gan awdur i wneud hyn.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.