John Owen (The British Martial)
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Epigramydd o Gymro (1564?-1628?), yn enedigol o Lanarmon, Sir Gaernarfon oedd John Owen.
Ganwyd John Owen ym Mhlas-du, Llanarmon, yn drydydd fab i Thomas Owen, ysgwier y plas. Cafodd ei addysg yn Ysgol Caer-wynt. Yn 1584 cafodd ei wneud yn gymrawd am oes yn y Coleg Newydd, Rhydychen. Enillodd radd fel Baglor Cyfraith Sifil yn 1590 a'r flwyddyn ar ôl hynny gadawodd Rydychen i gymryd swydd fel ysgolfeistr yn Nhre-lech, Mynwy. Oddi yno aeth yn ei flaen i fod yn brifathro yn Ysgol Rad Warwick yn 1594 neu 1595.
Yn Warwick gwnaeth enw iddo'i hun fel meistr ar yr iaith Ladin a'r clasuron a dechreuodd gyhoeddi epigramau Lladin dan yr enwau Audoenus ac Ovenus. Roedd ei lyfrau'n boblogaidd iawn am gyfnod ac enillodd iddo'i hun y llysenw The British Martial (sylwer bod "British" yn gyfeiriad at y ffaith ei fod yn Gymro yn hytrach na Phrydeiniwr). Cofier fod Lladin yn iaith ysgolheictod o hyd ac felly roedd cynulleidfa John Owen yn ehangach o lawer nac y buasai heddiw.
Ond er gwaethaf ei lwyddiant llenyddol roedd yn byw bywyd digon tlawd a dibynnai ar gymorth perthnasau i glymu dau linyn ynghyd. Trodd pethau'n waeth pan gyhoeddodd gyfres o epigramau yn ymosod ar Eglwys Rufain. Collodd nifer o'i noddwyr a chafodd ei waith ei roi ar yr Index Expurgatorius (llyfrau a waharddwyd gan y Chwilys) gan y chwilyswyr yn Rhufain. Bu farw yn 1628, yn ôl pob tebyg.
Cyhoeddwyd sawl argraffiad o'i waith o 1606 ymlaen. Cyfieithwyd detholiadau o'i waith i'r Saesneg ac i'r Sbaeneg, yr Almaeneg a'r Ffrangeg yn ystod yr 17eg ganrif. Yn anffodus ni chafwyd argraffiad Cymraeg o'i waith hyd y dwthwn hwn.
Roedd y llenor adnabyddus Victor Hugo yn edmygu gwaith John Owen; ccyhoeddoedd aralleiriad o un o'i gerddi yn 1820.
[golygu] Ffynonellau
- Robert Williams, Eminent Welshmen (Llanymddyfri, 1852)
- Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1986)