John Penry
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd John Penry (1559 - 29 Mai 1593) yn ferthyr Protestannaidd o Langamarch, Sir Frycheiniog. Cafodd ei addysg yn Peterhouse, Caergrawnt, lle y daeth dan ddylanwad Piwritaniaeth
Roedd yn feirniadol iawn o'r eglwys oherwydd ei diffyg gofal bugeiliol. Ysgrifennodd nifer o lyfrau yn Saesneg yn beirniadu'r Eglwys yng Nghymru ac yn gofyn am fwy o bregethu trwy gyfrwng y Gymraeg. Bu yn cynnal gwasg argraffu yn Lloegr am gyfnod, gwasg a argraffodd nifer o bamffledi yn beirniadu'r esgobion. Fe'i camgyhuddwyd o fod yn awdur o'r Marprelate Tracts ac o fod yn anheyrngar i frenin Lloegr. Cafodd ei grogi ar lan Afon Tafwys 29 Mai 1593.
Roedd ei gartref yng Nghefn Brith, Powys.
[golygu] Llyfryddiaeth
- The Æquity of an Humble Supplication (1587)
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.