Johnny Hallyday
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Actor a brenin Roc a Rôl Ffrainc yw Johnny Hallyday (ganwyd 15 Mehefin 1943 ym Mharis). Ei enw iawn yw Jean-Philippe Smet. Daeth ei deulu o Wlad Belg. Fe gymerodd Johnny ddinesyddiaeth Ffrengig yn 1961. Yn Ionawr 2006 penderfynodd ailgymryd dinesyddiaeth Gwlad Belg. Mae'n debyg mai Belgiad fydd e cyn diwedd y flwyddyn.
Mae Hallyday wedi gwerthu 300 miliwn albwm ac mae ganddo 18 albwm platinwm. Fe ddechreuodd fel actor o dan ei enw iawn, ond yn 1960 fe wnaeth ei record gyntaf dan yr enw "Johnny Hallyday". Ei record boblogaidd gyntaf oedd y gân roc a rôl "Souvenirs, souvenirs". Fe'i dilynodd yn 1961 gyda "Viens danser le twist", "Elle est terrible", "L'idole des jeunes" a "Retiens la nuit".
[golygu] Ffilmiau
- 1955 : Les Diaboliques (Jean-Philippe Smet yn 10 oed !)
- 1964 : D’où viens-tu Johnny?
- 1964 : Cherchez l'idole
- 1967 : Â tout casser
- 1968 : Les Poneyttes
- 1969 : Five plus One (cyngerdd Johnny Hallyday a'r Rolling Stones)
- 1984 : Détective de Jean-Luc Godard
- 1987 : Terminus
- 1989 : David Lansky (cyfres deledu)
- 1990 : Le Triangle de fer
- 1991 : La Gamine
- 2003 : L'homme du train
- 2003 : Wanted (gyda Gérard Depardieu a Renaud Séchan)
- 2004 : Les Rivières pourpres 2
- 2005 : Quartier VIP
- 2005 : Commissaire Moulin (teledu)