Karachi
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Karachi yw'r ddinas fwyaf ym Mhacistan ac un o'r deg o ddinasoedd mwyaf poblogedig yn y byd.
Wedi'i lleoli ar Fôr Arabia fymryn i'r gogledd o'r man lle mae Afon Indus yn rhedeg i'r môr ar ddiwedd ei thaith hir o fynyddoedd y Karakoram, Karachi yw prif borthladd Pacistan.
Yn ddinas fodern, datblygodd yn gyflym fel porthladd yn ystod y 19eg ganrif. Yn 1947 daeth yn brifddinas y Bacistan newydd a llifodd nifer fawr o ffoaduriaid i mewn i ddinas oedd eisoes yn llawn i'r ymylon. Gwellhaodd y sefyllfa i raddau pan symudwyd y brifddinas i Islamabad yn 1959 a chychwynwyd ar raglen o adeiladu bwrdeistrefi o gwmpas y ddinas yn y 1960au.
Karachi yw prif borthladd filwrol y wlad. Mae'r rhan fwyaf o gynnyrch taleithiau amaethyddol Sind a Punjab yn pasio trwy'r borth. Mae diwylliannay'n cynnwys y diwydiant brethyn, cemegau, a cheramics.
Un o'r ychydig atyniadau pensaernïol amlwg yn y ddinas yw Mazar-e-Quaid, beddrod Jinnah, sefydlwr Pakistan.