Montreal
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ail ddinas Canada a dinas fwyaf rhanbarth Québec yw Montreal (Ffrangeg Montréal). Hi yw'r ddinas Ffrangeg fwyaf yng Ngogledd America, a'r ail ddinas Ffrangeg yn y byd ar ôl Paris. Yn ôl Cyfrifiad Canada 2001, mae ganddi 1,583,590 o drigolion, tra bod 3,635,700 o bobl yn byw yn Montreal Fawr (amcangyfrif 2005). Lleolir Montreal yn ne-orllewin Québec.
Cynhaliwyd y Gemau Olympaidd yn y ddinas ym 1976.