Mynydd Hiraethog
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Mynydd Hiraethog yn ardal o ucheldir, gan mwyaf rhwng 400m a 500m, rhwng Afon Conwy ac Afon Clwyd, yn Sir Ddinbych a Sir Conwy.
Mynydd Hiraethog yw'r rhan fwyaf gogleddol o Fynyddoedd y Cambria. Mae'n ardal o rostir, gyda rhai dyffrynnoedd yn torri ar ei draws. Mae rhannau o Fynydd Hiraethog yn cynnwys trwch o rostir grug, sydd yn brin iawn yng Nghymru. Rheolid y rhostir yma ar gyfer saethu Grugiar yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif, ond bellach mae niferoedd y Grugiar wedi gostwng yn sylweddol yma. Mae rhan ddwyreiniol Mynydd Hiraethog yn cynnwys planhigfeydd coedwigaeth sy’n rhan o Fforest Clocaenog.
Mae'r ardal yn adnabyddus am olion cynhanesyddol, yn enwedig o Oes yr Efydd. Ymddengys fod poblogaeth sylweddol wedi bod yn byw yma yn y cyfnod yma, pan oedd yr hinsawdd ychydig yn gynhesach nag ar hyn o bryd. Ceir nifer o gronfeydd dŵr yma; y rhai mwyaf yw Llyn Alwen a Llyn Brenig.