Myrddin
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Myrddin yn gymeriad pwysig yn llenyddiaeth a chwedloniaeth Gymraeg, yn cynnwys yr hanesion am y Brenin Arthur. Efallai fod yr enw yn cyfeirio at sawl person, hanesyddol a chwedlonol.
Ceir y cyfeiriad cyntaf at berson o'r enw Myrddin mewn nifer o gerddi darogan, o ddyddiad ansicr ond yn cyfeirio at ddigwyddiadau yn y 6ed ganrif yn yr Hen Ogledd. Mae'r rhain yn cynnwys yr Afallennau, yr Hoianau, Cyfoesi Myrddin a Gwenddydd ei chwaer, Gwasgargerdd Fyrddin yn y bedd a Peirian Faban. Gellir casglu o'r cerddi hyn fod Myrddin yn fardd i Gwenddoleu fab Ceidio, a laddwyd ym Mrwydr Arfderydd yn erbyn Rhydderch Hael. Dywedir i Fyrddin fynd yn wallgof o weld y lladdfa, a chael y ddawn i broffwydo.
Datblygwyd y chwedl yn ddiweddarach gan Sieffre o Fynwy, sy'n cysylltu Myrddin a de Cymru, ac yn enwedig a Chaerfyrddin, yn hytrach na'r Hen Ogledd. Yn ei Historia Regum Britanniae (1136) mae Sieffre yn adrodd fod Myrddin yn fachgen "heb dad", a bod bwriad i'w ladd a thaenellu ei waed ar sylfeini caer yr oedd Gwrtheyrn yn ceisio ei hadeiladu. Mae'r hanes yma yr un hanes a'r un a adroddir gan Nennius am Dinas Emrys, ond mai Emrys Wledig (Ambrosius Aurelianus) yw'r bachgen yn stori Nennius, nid Myrddin. Yn ôl Sieffre daeth Myrddin yn ddewin ac yn gynghorydd i'r Brenin Arthur. Yn ddiweddarach ysgrifennodd Sieffre ei Vita Merlini am Fyrddin ei hun.