Operation Christian Vote
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mudiad gwleidyddol Cristnogol lleiafrifol a sefydlwyd gan y Parch James George Hargreaves ar gyfer yr etholiadau i Senedd Ewrop yn yr Alban yn 2004 yw Operation Christian Vote. Yn ddiweddar newidwyd ei enw i 'Y Blaid Gristnogol'. Mae'n gweithredu dan yr enw hwnnw yn Lloegr ac fel Y Blaid Gristnogol Gymreig yng Nghymru a'r 'Blaid Gristnogol Albanaidd' yn yr Alban.
Mae'n fudiad asgell-dde sy'n pregethu Cristnogaeth ffwndamentalaidd. Mae yn erbyn rhyddid personol mewn materion fel rhyw tu allan i briodas ac yn llym yn erbyn hoywon ac erthylu. Yn ogystal mae'n gwrthod yr Undeb Ewropeaidd.
[golygu] Cysylltiad allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.