Paul Murphy
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Gwleidydd Cymreig yw Paul Peter Murphy (ganwyd 25 Tachwedd 1948). Mae'n cynrychioli etholaeth Torfaen dros y Blaid Lafur ers 1987. Mae wedi gwasanaethu dwywaith yn Swyddfa Gogledd Iwerddon. Roedd yn weinidog gwladol yno o 1997 tan 1999 ac Ysgrifennydd Gwladol o 24 Hydref 2002 tan 5 Mai 2005. Daliodd swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru am dair blynedd a hanner o 28 Gorffennaf 1999 tan 23 Hydref 2002. Gadawodd y llywodraeth yn 2005. Fe'i addysgwyd yn West Monmouth School ym Mhont-y-pŵl ac yng Ngholeg Oriel, Rhydychen. Cyn dod yn aelod seneddol roedd yn ddarlithydd mewn hanes yn Ngholeg Gwent.