Pegwn y De
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Pegwn y De yw pwynt mwyaf deheuol y Ddaear; y De absoliwt, cymar deheuol Pegwn y Gogledd. Does dim un safle penodol i Begwn y De, ond mae ei lleoliad yn cael ei ddiffinio mewn pedair ffordd wahanol. Mae Pegwn y De ar gyfandir yr Antarctig.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Pegwn daearyddol y De
Pegwn y De daearyddol yw'r echel o gwmpas yr hwn y mae'r ddaear yn troi.
Y Norwywr Roald Amundsen oedd y dyn cyntaf i gyrraedd Pegwn y De. Cyrhaeddod ar 14 Rhagfyr, 1911. Cyrhaeddodd Capten Scott un mis ar ôl hynny, ond yn ystod ei daith yn ôl bu farw Scott a'i griw o newyn a'r oerni.
Ar ôl hynny aeth nifer o bobl eraill i'r pegwn, yn cynnwys Fuchs, Havola, Crary, a Fiennes.
Richard Byrd oedd y dyn cyntaf i hedfan uwchben Pegwn y De, ar (29 Tachwedd, 1929).
[golygu] Pegwn magnetaidd y De
Pegwn y de magnetaidd yw'r cyfeiriad y mae cwmpawd neu ben magned yn pwyntio iddo.
Ernest Shackleton oedd y dyn cyntaf i gyrraedd Pegwn magnetaidd y De ar (16 Ionawr, 1909)
[golygu] Pegwn daear-fagnetaidd y De
Mae Pegwn daear-fagnetaidd y De (pegwn magnetaidd amgen) ger Pegwn daearyddol y De.
[golygu] Pegwn mwyaf anghysbell y De
Mae'r pegwn hwn yn gorwedd ar hydred 85°50' (de) a lledred 65°47' (dwyrain). Dyma'r lle pellach o'r môr ar y cyfandir. Ym 1957 cyrhaeddodd tîm o'r Undeb Sofietaidd y lle i godi'r orsaf Sovetskaya. Roedd pobl yn byw yn yr orsaf yn ystod haf antarctigaidd 1957 - 1958.
[golygu] Gweler hefyd
- Cyhydred
- Hydred a Lledred
- Pegwn y Gogledd