Piraeus
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Piraeus (Groeg: Piraievs) yw porthladd Athen yng Ngwlad Groeg a'r porthladd pwysicaf yn y wlad honno. Mae'n gorwedd ar lan Gwlff Saronica i'r de-orllewin o Athen ei hun.
Sefydlwyd Piraeus yn y bumfed ganrif CC fel porthladd i Athen. Chwareuodd ran bwysig yn y rhyfeloedd rhwng Athen a'r Ymerodraeth Bersiaidd (gweler Rhyfeloedd Athen a Phersia). Ar ôl y rhyfeloedd hynny codwyd Muriau Hir Athen i gysylltu'r ddinas a Piraeus ac amddiffyn y tir rhyngddyn nhw.
Dioddefodd Piraeus ddifrod sylweddol yn yr Ail Ryfel Byd mewn canlyniad i fomio o'r awyr. Ers hynny mae hi wedi ei adeiladu ar raddfa eang a thyfu'n ganolfan diwydiant pwysig gyda iardau adeiladu llongau, gweithfeydd puro olew a gweithfeydd cemegol.