Prifadran Cymru (rygbi)
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Prifadran Principality | |
---|---|
Chwaraeon | Rygbi'r Undeb |
Sefydlwyd | 1990 |
Nifer o Dîmau | 14 |
Gwlad | Cymru |
Pencampwyr presennol | Castell Nedd |
Gwefan Swyddogol | Gwefan Swyddogol |
Prifadran Cymru (a elwir yn Brifadran Principality am resymau nawdd) yw'r gynghrair rygbi'r undeb lefel uchaf i glybiau Cymraeg. Creuwyd y brifadran yn 1990 i greu cynghrair ar gyfer y clybiau gorau yng Nghymru.
Yn 2000, cytunodd clybiau rygbi Caeredin a Glasgow i ymuno â'r 9 clwb Cymraeg yn y brifadran i ffurfio Cynghrair Cymru a'r Alban a gymrodd lle'r Brifadran am ddau dymor.
Ers 2003, pan ffurfiwyd cynllun rygbi rhanbarthol yng Nghymru, nid Prifadran Cymru yw'r gynghrair sydd â'r rygbi o ansawdd gorau yng Nghymru. Yn lle, byddai Cymru'n cael ei gynrychioli yn y gynghrair celtaidd a'r cwpan Heineken gan dîmoedd rhanbarthol. Byddai'r clybiau yn parhau i warae yn y Brifadran Principality ond byddent yn bennaf yn gweithredu fel tîmoedd datblygol ar gyfer ei rhanbarthau.
Mae'r nifer o dîmau yn y brifadran wedi amrywio dros y blynyddoedd. Ers tymor 2006-07, mae 14 tîm yn y gynghrair. Ar ddiwedd bob tymor, bydd y ddau dîm ar waelod y brifadran yn disgyn i'r adran gyntaf, tra bod y ddau dîm ar frîg yr adran gyntaf yn cael eu dyrchafu i'r brifadran.
[golygu] Tîmoedd 2006-07
- Aberafan
- Abertawe
- Bedwas
- Caerdydd
- Casnewydd
- Castell Nedd
- Cross Keys
- Crwydriaid Morgannwg
- Glyn Ebwy
- Llanymddyfri
- Llanelli
- Maesteg
- Penybont
- Pontypridd
[golygu] Cyn-ennillwyr
1990/91 Castell Nedd
1991/92 Abertawe
1992/93 Llanelli
1993/94 Abertawe
1994/95 Caerdydd
1995/96 Castell Nedd
1996/97 Pontypridd
1997/98 Abertawe
1998/99 Llanelli
1999/2000 Caerdydd
2000/01 Abertawe
2001/02 Llanelli
2002/03 Penybont
2003/04 Casnewydd
2004/05 Castell Nedd
2005/06 Castell Nedd