Prifysgol Bryste
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Prifysgol a leolir yn ninas Bryste, Lloegr yw Prifysgol Bryste (Saesneg University of Bristol). Rhoddwyd siarter frenhinol i'r brifysgol yn 1909, ac roedd hi ymysg y prifysgolion "briciau coch" gwreiddiol.
Prifysgol Bryste oedd y brifysgol gyntaf ym Mhrydain i dderbyn menywod ar yr un sylfaen â dynion. Yn aml, mae'n cael ei dosbarthu fel un o'r deg prifysgol gorau ym Mhrydain yn nhablau'r papurau newydd.