Rhaeadr Niagara
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Rhaeadr enwog ar y ffin rhwng Canada a'r Unol Daleithiau yw Rhaeadr Niagara.
Mae'r rhaeadr, sydd mewn gwirionedd yn gyfres o raeadrau cysylltiedig, ar Afon Niagara rhwng Llyn Erie a Llyn Ontario. Ar ei mwyaf mae'n 43m o uchder.
Ceir dwy ddinas o'r enw Niagara Falls, yn wynebu ei gilydd dros yr afon, un ohonynt yn nhalaith Efrog Newydd a'r llall yn nhalaith Ontario, yn Canada.
Dyma rigwm T.H. Parry-Williams a gyfansoddodd ar ymweliad â'r llecyn ar ddechrau'r 1930au:
-
- 'Roedd enfys fore ar y tawch a'r stŵr
- Yng ngwynder dymchwel disgynfa'r dŵr,
-
- A'm llygaid innau'n ei chael yn eu tro
- Yn 'sgytwad na chollir o gorff na cho'.
-
- Ysigol yw gwyrthiau'r ddaear ar ddyn
- Pan fo hwnnw ar daith gydag ef ei hun.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.