Robert Ferrar
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Esgob Tyddewi rhwng 1548 a'i losgu wrth y stanc ym 1555 oedd Robert Ferrar (c.1504 - 30 Mawrth, 1555). Ganed yn Halifax, Swydd Efrog rywbryd rhwng 1502 a 1505.
Yn bleidiwr brwd y Diwygiad Protestannaidd, fe'i penodwyd yn Esgob Tyddewi o dan Edward VI o Loegr ar 9 Medi 1548. Fe'i carcharwyd am heresi gan Mari Tudur, ac, ar ôl gwrthod datgyffesu, fe'i llosgwyd wrth y stanc ar sgwâr y farchnad yng Nghaerfyrddin ar 30 Mawrth 1555. Cynhwysodd y bardd Saesneg Ted Hughes gerdd amdano yn ei gyfrol The hawk in the rain.