Semtecs
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Nofel gan Geraint V. Jones yw Semtecs. Enillodd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Cwm Rhymni 1990 Mae hi'n gyntaf o dair nofel yn dilyn anturiaethau Semtecs - sef Samuel Tecwyn Turner - ditectif yr heddlu yn Nhrecymer, pentref dychmygol yng Ngogledd Cymru. Teitl yr ail nofel yw Asasin, a'r drydedd yw Omega.
Roedd Semtecs yn yr SAS cyn dod i Drecymer i weithio i'r heddlu ac i osgoi hunllefau ei waith blaenorol. Mae'r nofel yn thriller sydd yn dilyn digwyddiadau anghredadwy yn Nhrecymer yn ogystal a gwaith blaenorol Semtecs a'r problemau gafodd ef yno. Mae'r nofel yn dechrau gyda byrgleriaeth mewn bwyty, ond mae problemau eraill yn y pentref hefyd, er enghraifft mae yna byrglediaethau eraill a ty wedi llosgi.
Ar waethaf bod yn y fyddin, ei wybodaeth eang o ieithoedd, a'i brofiad o fyw mewn gwledydd tramor, mae Semtecs yn frodor eithaf cyffredin yn y pentref. Mae e'n byw mewn hen sgubor wedi ei hadnewyddu ac mae'n mwynhau teithio ar ei feic modur. Mae ffrindiau Semtecs a bywyd yn y pentref bychan yng Ngogledd Cymru yn cael eu cyflwyno yn ddigon manwl yn y llyfr hon.
[golygu] Manylion
- Geraint V. Jones: Semtecs. Gwasg Carreg Gwalch 1999. ISBN 0-86381-528-6