Taliesin
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Taliesin yn un o'r beirdd cynharaf yn yr iaith Gymraeg, a'r bardd Cymraeg cynharaf y ceir ei destunau ar glawr heddiw. Roedd Taliesin yn fardd llys i ddau o frenhinoedd y Brythoniaid: Cynan Garwyn o Bowys ac Urien Rheged yn yr Hen Ogledd. Bu fyw yn ail hanner y 6ed ganrif ac roedd yn perthyn i'r genhedlaeth ar ôl Aneirin. Fe'i crybwyllir yn y llyfr Historia Brittonum gan Nennius ynghyd ag Aneirin, Cian, Blwchfardd a Thalhaearn, fel bardd a ganai yn yr Hen Ogledd. Mae cerddi'r Taliesin hanesyddol wedi goroesi yn Llyfr Taliesin, llawysgrif o ddechrau'r 13eg ganrif, ynghyd a cherddi eraill sydd yn ddiweddarach ond a dadogir arno.
[golygu] Tad y Traddodiad Barddol
Cofnododd Elis Gruffydd fersiwn o'r chwedl Hanes Taliesin yn y 16eg ganrif, a'r hanes yma a fersiynau diweddarach ohono, ynghyd â'r canu darogan a cherddi chwedlonol canoloesol, sydd yn sylfaen i ddelw Taliesin yn y diwylliant a dychymyg poblogaidd hyd heddiw dan yr enw Taliesin Ben Beirdd. Yn y Traddodiad Barddol Cymreig roedd Taliesin yn cael ei ystyried gan y beirdd fel Tad y Traddodiad.
[golygu] Gweler hefyd
- Llyfr Taliesin
- Taliesin Ben Beirdd
[golygu] Llyfyddiaeth
- Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1959; sawl argraffiad arall wedi hynny). Y golygiad safonol o destunau hanesyddol Taliesin.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.