Thomas Jones (Dinbych)
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Thomas Jones (1756-1820) yn un o lenorion mwyaf galluog y Methodistiaid yng Nghymru, a aned yng Nghaerwys yn Sir y Fflint, gogledd Cymru.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Y dyn a'r diwygiwr
Ganed Thomas Jones ym Mhenucha, ger Caerwys, yn 1756. Yn ddyn ieuanc derbyniodd addysg glasurol yn Nhreffynnon gyda'r bwriad o fynd yn offeiriad yn yr eglwys sefydliedig. Ond dylanwadodd arno'n gynnar gan y Methodistiaid a daeth yn un ohonynt gan roi heibio unrhyw fwriad o gael ei ordeinio yn Eglwys Loegr. Roedd hynny cyn i'r Methodistiaid ddechrau ordineiddio ac felly arosodd yn lleygwr. Dechreuodd bregethu yn 1773. Yn 1784 cyfarfu â Thomas Charles o'r Bala. Cafodd ddylanwad cryf ar Charles a chyfranodd at loywi ei iaith. Llafuriodd gyda'r Methodistiaid fel cynghorwr yn Rhuthin, Dinbych a'r Wyddgrug. Roedd yn un o'r cynharaf o'r Methodistiaid i gael eu neilltuo i weini'r Ordinhadau yn 1811 ac o hynny hyd ddiwedd ei oes llafuriodd i adeiladu'r eglwys Fethodistaidd ar seiliau cadarn. Yn ddiwinyddol gorweddai rhwng eithafion Arminiaeth ac Uchel Galfiniaeth gwŷr fel John Elias. Bu'n briod dair gwaith.
[golygu] Y diwinydd
Gwnaeth Thomas Jones gyfraniad sylweddol o ran cynnwys ac arddull i ddiwinyddiaeth Gymraeg. Roedd yn wrthwynebydd cryf i Arminiaeth, a oedd yn amlwg ymhlith y Wesleyaid, a chyfieithodd The Christian in Complete Armour (1655-1662) gan William Gurnal i'r Gymraeg dan y teitl Y Cristion mewn Cyflawn Arfogaeth (1796-1820). Ei gampwaith yn ddi-os yw'r gyfrol enfawr a gyhoeddodd yn 1813 ar hanes merthyron y ffydd Brotestanaidd, Hanes Diwigwyr, Merthyron, a Chyffeswyr Eglwys Loegr (neu Hanes y Merthyron).
Gyda Thomas Charles o'r Bala bu'n olygydd o'r Drysorfa Ysbrydol, a ddaeth allan am y tro cyntaf yn 1799 fel cyhoeddiad trimisol. Ysgrifenodd yn ogystal nifer o emynau, yn cynnwys "Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw" ac "O! arwain fy enaid i'r dyfroedd."
[golygu] Y llenor
Ysgrifenodd hunangofiant diddorol a darllenadwy (1814) a chofiant i'w gyfaill Thomas Charles, un o'r gorau o'i fath. Cyhoeddodd eiriadur Saesneg a Chymraeg eithaf safonol yn 1800. Yr oedd hefyd yn fardd o safon; y cywydd "I'r Aderyn Bronfraith" (1773) yw'r enghraifft orau o'i gerddi.
Argraffodd Thomas Jones ran sylweddol o'i waith ar wasg a sefydlodd ei hun yn ei gartref yn Rhuthun yn 1804. Gwerthodd y wasg i Thomas Gee'r hynaf, tad yr argraffydd enwog Thomas Gee, yn 1813.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Frank Price Jones, Thomas Jones o Ddinbych, 1756-1820 (Dinbych, 1956)
- Idwal Jones (gol.), Hunangofiant y Parch. Thomas Jones, Gweinidog yr Efengyl o dref Dinbych (Aberystwyth, 1937)
- Jonathan Jones, Cofiant y Parch. Thomas Jones o Ddinbych (Dinbych, 1897)
- Saunders Lewis, "Cywydd gan Thomas Jones, Dinbych" (Y Llenor, xii, 133-4); hefyd yn ngolygiad Gwynn ap Gwilym o rai o erthyglau Saunders, Meistri a'u Crefft (Caerdydd, 1981). Ysgrif ar y cywydd "I'r Aderyn Bronfraith".