Thomas Jones (arlunydd)
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Thomas Jones (1742–1803) yn arlunydd Cymreig ac yn ddisgybl i Richard Wilson. Fe'i ganed ym mhlwyf Cefn-llys, yn sir Faesyfed ond cafodd ei fagu ym mhlas Pencerrig, Llanelwedd, yn yr un sir. Ei lun enwocaf efallai yw "Y Bardd" (1774), llun sy'n crynhoi agweddau Rhamantaidd y cyfnod am orffennol "Gwyllt Walia".
[golygu] Blynyddoedd Cynnar
Roedd ei rieni yn gobeithio y buasai'n cynryd Urddau Eglwysig ond roedd ei awyd i beintio'n rhy gryf. Cafodd ei anfon i Goleg Iesu, Rhydychen i adtudio ar gyfer yr eglwys ond gadawodd yn 1761 i ddilyn gyrfa fel arlunydd. Daeth yn ddisgybl i Richard Wilson tra yn Llundain.
[golygu] Yr Eidal
Fel y mwyafrif o artistiaid Prydeinig y cyfnod, aeth ar daith i'r Eidal yn ei lencyndod er mwyn cael ei addysgu yn nhechnegau'r Hen Feistri. Tra yn Napoli a Rhufain gwnaeth gyfres o beintiadau olew o strydoedd anhysbys a waliau tu cefn, yn dra wahanol i'r tirweddau crand, confensiynol yr oedd peintwyr fel ei athro yn arbenigo ynddynt. Ceir nifer o enghreifftiau da o'r rhain yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Oriel Genedlaethol Llundain. Maent yn weithiau o flaen eu hamser ac ni welwyd ffresni o'r fath mewn tirluniau hyd nes ddyfodiad Camille Corot a pheintwyr yr ysgol Barbizon yn y 19eg ganrif.
[golygu] Pencerrig
Ar ôl treulio dwy flynedd ar bymtheg ar y cyfandir, dychwelodd Thomas Jones i fyw yn ei fro enedigol yn 1789. Mae ei luniau o ardal Pencerrig, sy'n dyddio o'r cyfnod olaf hwnnw yn ei oes, ymhlith ei orau.