West Ham United F.C.
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Tîm pêl-droed o ddwyrain Llundain yw West Ham United Football Club. Mae West Ham yn chwarae yn Stadiwm Boleyn (Upton Park). Rheolwr cyfredol y clwb yw Alan Curbishley, a benodwyd ar 13 Rhagfyr 2006, ar ôl ymddiswyddiad Alan Pardew.
Sefydlwyd y clwb ym 1895. Maen nhw wedi ennill Cwpan FA Lloegr dair gwaith: yn 1964, 1975 a 1980. Enillon nhw Gwpan Enillwyr y Cwpanau yn 1965 a Chwpan Intertoto yn 1999. Eu safle terfynol gorau yn Uwchgynghrair Lloegr oedd trydydd le yn 1986.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.