William R. P. George
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Bardd a chyfreithiwr oedd William Richard Philip George, CBE (1912 - 20 Tachwedd, 2006, ac yr oedd yn nai i David Lloyd George a fu'n brifweinidog Prydain Fawr.
Fe'i ganwyd yng Nghricieth ac yr oedd ei dad, William George yn frawd iau i David Lloyd George.
Ar waethaf tueddiadau Rhyddfrydol y teulu, roedd yn gefnogol i Blaid Cymru, a bu'n gynghorydd annibynnol ar Gyngor Sir Gwynedd o 1967 tan 1996.
Roedd yn fardd ac fe'i coronwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerfyrddin 1974 am ei bryddest "Tân". Derbyniodd ddoethuriaeth oddi wrth Prifysgol Cymru yn 1988, a bu'n archdderwydd o 1990 hyd 1993.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.