Ysgol Gyfun y Strade
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Yn 1977 daeth addysg gyfun i dref Llanelli. Sefydlwyd ysgol uwchradd Gymraeg yn y dref, sef Ysgol Gyfun y Strade. Mae'r ysgol yn derbyn disgyblion o'r ardal amgylchynol, o ysgolion megis Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Ysgol Gynradd Llangennech, Trimsaran, Felinfoel, Parc y Tywyn, Ysgol Gymraeg Brynsierfel Llwynhendy, Yr Hendy. Ar y cychwyn roedd yr ysgol yn weddol fach, ond erbyn heddiw mae wedi tyfu'n llwyddianus iawn. Mae gan yr ysgol Dosbarth chwech hefyd; y Strade yw'r unig ysgol yn nhref Llanelli sydd wedi cadw ei dosbarth chwech, gan fod y disgyblion o bob ysgol arall yn mynychu Coleg Sir Gaerfyrddin.
Mr Desmond Jones oedd y prifathro cyntaf, gyda Mr John Rees a Miss Megan Evans yn ddirprwyon. Yna fe ddaeth Mrs Nesta Thomas yn ddirprwy. Mr Geraint Roberts yw'r pennaeth presennol a Mr Garry Nicholas a Mrs Hefina Thomas yn ddirprwyon.