Aachen
Oddi ar Wicipedia
Dinas hynafol yng ngorllewin yr Almaen yw Aachen (Ffrangeg: Aix-la-Chapelle). Fe'i lleolir yn nhalaith Gogledd Rhein-Westphalia ger y ffin bresennol â Gwlad Belg a'r Iseldiroedd. Mae'n ganolfan ddiwydiannol gyda gweithfeydd dur a haearn. Sefydlwyd prifysgol dechnegol yno ym 1870.
Aachen oedd prifddinas ogleddol yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn nheyrnasiad Siarlymaen. Cafodd Siarlymaen ei gladdu yn yr eglwys gadeiriol a godwyd ganddo yn 796, yn y flwyddyn 814, ac arferid coroni'r Ymerodron Glân Rhufeinig yno ar ôl hynny.
Cafodd y ddinas ei difrodi'n sylweddol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Hi oedd y ddinas fawr gyntaf yn yr Almaen i gael ei chipio gan y Cynghreiriaid, ym 1944.