Abdurrahman Wahid
Oddi ar Wicipedia
Abdurrahman Wahid, hefyd Gus Dur (ganed 4 Awst 1940) oedd pedwerydd Arlywydd Indonesia, o 1999 hyd 2001.
Ganed ef yn Jombang, Dwyrain Jafa. Bu yn arweinydd plaid Islamaidd y Nahdlatul Ulama, a sylfaenodd y Partai Kebangkitan Bangsa (PKB, "Plaid Deffroad y Bobl"), wedi cwymp yr Arlywydd Suharto. Daeth yn Arlywydd yn 1999, a chymerodd gamau i ddemocrateiddio'r wlad, gan ddileu nifer o ddeddfau oedd yn rhoi Sineaid ethnig dan anfantais. Wedi cyfnod o salwch a chyhuddiadau o lygredd ymysg rhai o'r bobl o'i gwmpas, collodd ei swydd ym mis Gorffennaf 2001. Dilynwyd ef gan Megawati Sukarnoputri.
Rhagflaenydd : Bacharuddin Jusuf Habibie |
Arlywyddion Indonesia Abdurrahman Wahid |
Olynydd : Megawati Sukarnoputri |