Adnodd adnewyddadwy
Oddi ar Wicipedia
Adnodd nad ydi'n yn lleihau pan fod dyn yn ei ddefnyddio yw adnodd adnewyddadwy. Mae rhai pobl yn dweud fod hynny'n cynnwys popeth y gellir ei ailgylchu, ond mae pobl eraill yn dweud fod hynny dim ond yn wir am adnoddau sydd yma o hyd fel y gwynt neu'r haul.
Mae adnoddau adnewyddadwy yn cynnwys gwybodaeth, pobl, egni gwynt, egni solar a biomas sydd yn cael eu llosgi. Mae deunydd adnewyddadwy yn cynnwys pren, dŵr, awyr, cwyr, papur, cardbord a lledr. Sut bynnag, mai rhai pobl yn dadlau nad yw pren caled yn adnewyddadwy oherwydd y maint o amser mae'n cymryd i dyfu. Ac mae'n rhaid cofio fod angen egni i gludo defnydd ac i drin adnoddau fel dŵr. Ar hynny, mae'n bosib dinistrio'r cydbwysedd naturiol trwy gor-ddefnyddio adnoddau.
Mae deunydd eraill sydd yn haws i'w ailgylchu fel dur, alwminiwm, copr a gwydr, ac mae rhai bobl yn dweud fod y rheiny'n adnewyddadwy, hefyd.
Dydi plastig, petrol, glo, nwy naturiol a deunydd eraill wedi ei wneud o danwydd ffosil ddim yn adnewyddadwy.
Gellir ailgylchu neu gynhyrchu'r adnoddau adnewyddadwy heb defnyddio adnoddau anadnewyddadwy. Mae'n bosib ailgylchu dur, alwminiwm neu copr o wastraff metel, ond - yn arbennig pan yn ailgylchu alwminiwm - mae rhaid defnyddio llawer o egni, fel arfer egni tanwydd ffosil neu ynni atomig.
Mae'n bosib torri polimer i lawer i fonomerau mewn labordy, ond ar hyn o bryd dydi ailgylchu plastig ddim yn economaidd achos fod olew crai yn rhatach na monomerau wedi ei thorri i lawer a'u golchi. Ac mae'n bosib cynhyrchu petrol o olew planhigion fel olew had rêp. Gelwir hynny'n fio-diesel, ond mae hi'n ddrud iawn heddiw, hefyd.
Mae'r dadlau ynglyn ag ydyw ynni atomig yn adnewydadwy neu beidio yn parhau rhwng arbenigwyr. Ar yr un llaw defnyddir y dechnoleg ers blynyddoedd ac mae hi'n bosib ailgylchu'r tanwydd, ond ar y llaw arall mae gwastraff atomig yn beryglus iawn a mae mwyngloddio am wraniwm yn beryglus hefyd achos yr ymbelydredd.