Afon Belize
Oddi ar Wicipedia
Afon 180 milltir o hyd yn Belize, Canolbarth America, yw Afon Belize. Mae'n casglu dŵr mwy na chwarter y wlad wrth ddilyn ymyl orllewinol Mynyddoedd Maya i aberu yn y Caribî ger Dinas Belize. Enw arall arni yn lleol yw "Yr Hen Afon". Gellir ei mordwyo hyd at agos i'r ffin â Guatemala. Hyd ddiwedd yr 20fed ganrif hi oedd prif lwybr masnach a chyfathrebu rhwng y tiroedd mewnol a'r arfordir.
Mae hi'n cychwyn lle mae Afon Mopan ac Afon Macal yn cyfuno ger San Ignacio, Belize. Am y rhan fwyaf o'i chwrs mae'n llifo trwy goedwigoedd trofannol ei dyffryn. Mae'n ffynhonnell bwysig ar gyfer dŵr yfed i drigolion yr ardal ond mae llygredd gan gemegon amaethyddol ac effaith dadgoedwigo, yn bennaf mewn canlyniad i amaethyddiaeth sleisio a llosgi, yn broblem fawr heddiw.