Afon Clywedog (Dyfrdwy)
Oddi ar Wicipedia
Mae dwy Afon Clywedog yng Nghymru. Mae'r erthygl yma yn trafod yr afon yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n llifo i mewn i Afon Dyfrdwy. Am y llall, sy'n llifo i mewn i Afon Hafren gweler Afon Clywedog (Hafren).
Mae Afon Clywedog yn tarddu yn y bryniau i'r gorllewin o bentref Minera. Ar ôl llifo trwy Minera mae'n troi tua'r de-ddwyrain heibio Coedpoeth, Bersham a Rhostyllen a thrwy Barc Gwledig Erddig, yna'n llifo tua'r dwyrain ychydig i'r de o Wrecsam. Mae llwybr ar hyd glan yr afon yr holl fordd o Minera i Wrecsam. Wedi pasio Ystad Ddiwydiannol Wrecsam mae Afon Clywedog yn ymuno ag Afon Dyfrdwy yn agos i'r ffîn rhwng Cymru a Lloegr.