Afon Dulyn
Oddi ar Wicipedia
Afon yn Y Carneddau, Eryri, yw Afon Dulyn. Mae'n llifo allan o Lyn Dulyn, llyn tua 2000 troedfedd i fyny yng nghysgod Foel Fras, i lifo i Afon Conwy.
Fymryn islaw Llyn Dulyn mae ffrwd fechan Afon Melynllyn, sy'n llifo allan o Lyn Melynllyn gerllaw, yn ymuno â hi. Yna mae'r afon yn llifo i'r dwyrain trwy Bant y Griafolen ac i lawr i ymuno ag Afon Conwy ger Tal-y-bont, rhwng Caerhun a Dolgarrog.
Mae lefel y dŵr yn Afon Dulyn yn tueddu i fod yn isel am fod dŵr Llyn Dulyn yn cael ei gludo i Lyn Eigiau a Llyn Cowlyd.