Afon Dwyfach
Oddi ar Wicipedia
Afon yng Ngwynedd yw Afon Dwyfach. Ei hyd yw tua 8 milltir.
Tardda'r afon mewn cors eang ym mhlwyf Clynnog nepell o Fwlch Derwin. Llifa i gyfeiriad y de heibio pentrefi bychain Bryncir, Glan Dwyfach, a Rhoslan. Rhed yr A487 ar hyd ei glan ddwyreiniol rhwng Clynnog Uchaf a Glan Dwyfach.
Tua milltir o'r môr mae Afon Dwyfor yn ymuno a hi, ychydig cyn iddi gyrraedd y môr i'r de o bentref Llanystumdwy ac i'r gorllewin o dref Cricieth, gan aberu ym Mae Ceredigion.