Afon Guadiana
Oddi ar Wicipedia
Afon yn Sbaen a Portiwgal yw Afon Guadiana, a'r bedwaredd afon ar Benrhyn Iberia o ran hyd, 818 km i gyd. Tardda yn yr Ojos del Guadiana yng nghymuned ymreolaethol Castilla-La Mancha, 608 m uwch lefel y môr, ac mae'n llifo tua'r de-orllewin, yna wedi mynd heibio dinas Badajoz, tua'r de trwy gymunedau ymreolaethol Extremadura ac Andalucía, i gyrraedd Môr Iwerydd yng Ngwlff Cadiz.
Ffurfia'r afon y ffîn rhwng Sbaen a Portiwgal yn ei rhan isaf. Heblaw Badajoz, mae'n llifo heibio dinas Mérida.

Rhan isaf Afon Guadiana, gerllaw Serpa, Portiwgal.