Afon Gwy
Oddi ar Wicipedia
Afon sy'n llifo o lethrau dwyreiniol Pumlumon i Afon Hafren (ger Cas-gwent) yw Afon Gwy. Dalgylch yr afon yw 4136 km². Mae nifer o drefydd ar lan yr afon: Rhaeadr Gwy, Y Gelli Gandryll, Henffordd, Ross-on-Wye, Symonds Yat, Trefynwy a Thyndyrn a Chas-gwent. Mae'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SGDA) ac mae'n bwysig o safbwynt cadwriaethol. Ger Afon Hafren, mae'r dyffryn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AOHNE).
Does ddim lawer o broblemau llygredd ac mae'r afon yn gynefin i eogiaid.
Mae Afon Gwy yn lle poblogaidd i gerdded a chanŵio.