Afon Merswy
Oddi ar Wicipedia

Cwch fferi yn croesi Afon Merswy yn Lerpwl
Afon sy'n rhedeg trwy ran o ogledd-orllewin Lloegr yw Afon Merswy (hefyd Mersi, Saesneg:Mersey). Ei hyd yw 70 milltir (113 km).
Mae'n cael ei ffurfio gan aberu afonydd Goyt a Tame ger Stockport. Mae'n llifo i Fôr Iwerddon rhwng Lerpwl a Phenbedw.
[golygu] Tarddiad yr enw
Un esboniad posib o'r enw yw iddo ddod o'r gair Eingl-Sacsoneg Mǽres-ēa, sef afon ffin, gan mai'r Ferswy oedd y ffin rhwng Mersia a Northumbria. Eglurhad amgen yw iddo dod o'r Hen Gymraeg "môr-afon" neu "môr-dwfr" (daw Mære, môr a'r Lladin mare o'r un gwraidd Indo-Ewropeaidd).