Afon Neva
Oddi ar Wicipedia
Afon fer yng ngogledd-ddwyrain Rwsia sy'n cysylltu Llyn Ladoga â Gwlff y Ffindir a Môr y Baltig yw Afon Neva (Rwsieg Невá / Neva). Mae'n llifo allan o Lyn Ladoga ger Shlisselburg, gan lifo i'r de-orllewin drwy ddinas St Petersburg. Ei hyd yw 74km. Mae 28km ohoni yn gorwedd y tu fewn i ddinas St Petersburg. Ei lled yw 400 i 600m ar gyfartaledd, gyda lled mwyaf o 1200m yn ei haber yn St Petersburg. Ei dyfnder ar gyfartaledd yw 8 i 11m.
Mae'r cyfeirad cyntaf at yr afon yn ddyddio i 1240 a Brwydr Afon Neva, ysgarmes rhwng lluoedd Novgorod a Sweden. Bu'r Novogorodiaid yn fuddugol, ac fe gymerodd Tywysog Aleksandr, oedd yn eu harwain, y llysenw Nevsky ('o'r Neva') o ganlyniad.
Mae'r afon yn chwarae rôl amlwg mewn llawer o weithiau llenyddiaeth Rwsieg. Mae cerdd Pushkin, Medny vsadnik ('Y marchog efydd'), yn digwydd yn ystod llifogydd ar y Neva yn St Petersburg.