Afon Yangtze
Oddi ar Wicipedia
Yr afon hiraf yn Asia, a'r drydedd hiraf yn y byd (ar ôl yr Afon Nîl a'r Afon Amason) yw Afon Yangtze neu Chang Jiang (長江 neu 长江), Drichu yn Tibeteg (འབྲི་ཆུ་). Mae hi oddeutu 6,380 km o'i tharddiad yn rhanbarth Qinghai, i'r mor ger Shanghai.
[golygu] Enwau
Deillia'r enw 'Yangtze', (a ffurfiau tebyg megis 'Yangtse', 'Yangzi', 'Yangtze Jiang' etc.), o'r enw Tsieinëeg Yangzi Jiang (扬子江/揚子江), enw ar rannau isaf yr afon (rhwng Yángzhōu 揚州 a Zhènjiāng 鎮江) o'r cyfnod Sui ymlaen. O'r cyfnod Ming ymlaen, ysgrifenwyd yr enw weithiau ar y ffurf "yángzĭ 洋子." Dyma'r enw a glywyd gyntaf gan genhadon a masnachwyr, a felly defnyddir yr enw yn Saesneg am yr afon gyfan. Yn y Tsieinëeg, ystyrir yr enw Yangzi Jiang yn un hanesyddol neu farddonol yn bennaf. Chang Jiang (长江/長江 Cháng Jiāng), sy'n golygu "afon hir", yw'r enw Tsieinëeg cyfoes.
Gan ei bod yn afon mor hir, mae yna sawl enw brodorol ar wahanol rannau o'r afon. Wrth ei tharddiad, Dangqu (当曲/當曲, o'r Tibeteg am "afon waen") yw'r enw Tseinïeg arni. Yn is i lawr, daw'r enwau afon Tuotuo(沱沱河) ac afon Tongtian (通天河, yn llythrennol "afon fwlch i'r nefoedd"). Wrth iddi lifo trwy geunentydd dwfn yn gyfochrog â'r afon Mekong a'r afon Salween cyn ymddangos ar wastad-dirroedd Sichuan, fe'i hadwaenir fel yr afon Jinsha (金沙江 Jīnshā Jiāng, "afon dywod aur").
Yn amseroedd a fu, defnyddid yr enw Jiang (江 Jiāng) arni, ond mae hynny'n enw sy'n golygu "afon" erbyn hyn. Drichu (འབྲི་ཆུ་ / 'bri chu, "afon yr yak fenywaidd").
[golygu] Gweler hefyd
- Argae'r tri cheunant