Agnosticiaeth
Oddi ar Wicipedia
Agnostig yw rhywun sy’n ymresymu bod dim modd gwybod os ydy Duw yn bodoli.
Mae’r gair agnosticiaeth yn dod o'r Saesneg agnosticism; gair gwneud o'r Roeg agnosia = 'anwybodaeth', o'r gwreiddyn gnosis neu gnostikos = 'gwybodaeth'.
Er bod sawl unigolyn wedi dal y safbwynt hwnnw trwy hanes, ymddengys mai'r athronydd Thomas Huxley a fathodd yr enw (agnosticism) yn 1869 i ddisgrifio ei safbwynt. Roedd y rhai o amgylch Huxley aillai yn bendant bod Duw yn bodoli neu yn bendant bod Duw ddim yn bodoli ond roedd Huxley yn ymresymu bod y gwybodaeth hwn yn absennol.
Cafodd yr enw ei fabywsiadu gan rhesymolwyr ail hanner y 19eg ganrif er mwyn diffinio eu safle rhwng credu mewn Duw ar y naill law ac anffyddiaeth, sy'n gwrthod Duw yn gyfangwbl, ar y llaw arall.
Mae tuedd i agnostig fod yn wybodus iawn mewn materion crefyddol, ac yn aml iawn, fe fyddynt yn cael eu cyhuddo o ‘haner gredu’ mewn Duw a’u bod yn amharod i ymrwymo at eu cred. Fe fydd yr agnostig yn gwadu’r cyhuddiad hwn gan honni nad yw'n bosibl gwybod amdano hyd yn oed os yw'n bodoli. Yn fwy diweddar mae'r term ‘agnostig’ yn cael ei ddefnyddio mewn ystyr llai diffiniedig i gynnwys barn pobl sydd ddim yn gwybod am y byd ysbrydol neu ddim yn poeni amdano o gwbl.