Aleksey Musin-Pushkin
Oddi ar Wicipedia
Hynafiaethydd, casglwr celfyddyd ac hanesydd o Rwsiad oedd Aleksey Ivanovich Musin-Pushkin (1744 - 1817). Fe bentyrrodd gasgliad enfawr o lawysgrifau gan gynnwys rhai o lawysgrifau pwysicaf y Rwsia ganoloesol, megis Llawysgrif Lawrentiaidd y Brut Cynradd Rwsieg a llawysgrif hynaf y Zadonshchina. Fe oedd yn gyfrifol hefyd am ddarganfod unig lawysgrif un o weithiau bwysicaf llenyddiaeth ganoloesol Rwsia, y Slovo o polku Igoreve ym 1800.