Alexander Borodin
Oddi ar Wicipedia
Yr oedd Alexander Porfiryevich Borodin (Rwsieg: Александр Порфирьевич Бородин, Aleksandr Porfir'evič Borodin) (31 Hydref/12 Tachwedd 1833 – 15 Chwefror/27 Chwefror 1887) yn gyfansoddwr clasurol Rwsiaidd o dras Georgiaidd a aned yn St. Petersburg. Roedd yn athro cemeg a ddaliodd sawl swydd academaidd a swyddogol. Sefydlodd Ysgol Meddygon i ferched.
Datglygasai diddordeb Borodin mewn cerddoriaeth glasurol yn ystod ei lencyndod. Yn hwyr yn ei ddauddegau cyfarfu â Balakiref, un o gyfansoddwyr Rhamantaidd mawr y cyfnod, a daeth yn aelod o grŵp 'Y Pump'. Bu farw'n sydyn mewn parti yn ei ddinas enedigol, yn 53 oed.
[golygu] Ei waith
Nid yw Borodin yn gyfansoddwr cynhyrchfawr, gyda dim ond 21 o weithiau i'w enw, ond mae ei waith yn cynnwys y "braslun symffonig" Ar wastadeddau Canolbarth Asia a'r opera Y Tywysog Igor a adaelwyd heb ei gorffen ond a gwblheuwyd gan ei gyfeillion Rimsky-Korsakof a Glazunof. Un o'i edmygwyr mawr oedd Liszt.
[golygu] Cyfeiriadau
- Percy A. Scholes, The Oxford Companion to Music (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 10fed argraffiad, 1995)