Alfred Nobel
Oddi ar Wicipedia
Dyfeisiwr deinameit, fferyllydd a pheiriannydd o Sweden oedd Alfred Bernhard Nobel (21 Hydref, 1833 - 10 Rhagfyr, 1896). Ef oedd sylfaenydd Gwobr Nobel.
Bu'n astudio ffrwydron ac yn arbennig sut i'w cynhyrchu yn ddiogel. Wrth gynhyrchu deinameit a nifer o ffrwydron eraill fe ddaeth yn gyfoethog iawn. Gadawodd y cyfoeth hwn yn ei ewyllys i sefydlu Gwobr Nobel i'w dyfarnu yn flynyddol.