Amgueddfa Brydeinig
Oddi ar Wicipedia
Y mae'r Amgueddfa Brydeinig yn Llundain yn gartref i dros 13 miliwn o arteffactau o ddiwylliant a hanes dynol, ac felly yn un o'r casgliadau mwyaf sylweddol o'i bath ledled y byd. Sefydlwyd hi gan ddeddf Seneddol ym 1753, a casgliad yn perthyn i'r meddyg Syr Hans Sloane (a fu farw y flwyddyn honno) a ffurfiodd cnewyllyn yr amgueddfa wreiddiol.
Lleolir yr amgueddfa ar hen safle plasdy'r teulu Montagu, mewn adeilad a'i gynlluniwyd yn yr arddull Roegaidd gan Syr Robert Smirke. Ychwanegodd ei frawd iau, Sydney Smirke, y llyfrgell crwn enwog a saif yng nghwrt canolog yr adeilad. Gorchuddiwyd y cwrt hynny â tho gwydr gan yr Arglwydd Norman Foster yn 2000.