Anaximandros
Oddi ar Wicipedia

Athronydd Groeg cynnar oedd Anaxímandros (Groeg: Ἀναξίμανδρος, Anaximander mewn rhai ieithoedd) (c. 610 CC - 546 CC). Roedd yn frodor o ddinas Roeg Miletos, yn Asia Leiaf. Mae'n bosibl ei fod yn ddisgybl i Thales ac yn olynydd iddo.
Ysgrifennodd lyfr dylanwadol, Ar Natur. Mae'r llyfr ar goll bellach ond gwyddys am rai o syniadau Anaxímandros am fod awduron Clasurol diweddarach yn dyfynnu o'i lyfr, a gafodd gylchrediad eang yn yr Henfyd. Ymhlith yr adwuron sy'n ei dyfynnu y mae Aristotlys, Plutarch a Hippolytus.
Roedd yn credu nad elfen, fel aer neu ddŵr, oedd Prif Egwyddor y bydysawd ond yn hytrach yr apeiron (y Tragwyddol / Di-derfyn). Mae rhai o'i syniadau'n wreiddiol iawn. Credai mai'r byd yw canolbwynt y bydysawd a'i fod yno yn y canol heb gael ei ddal i fyny gan unrhywbeth; fod pob creadur byw wedi ymddangos o'r mwd cynoesol a bod bodau dynol wedi esblygu o greaduriaid eraill, cynharach, llai deallus.
Roedd yn gartograffydd hefyd, a luniodd y map cyntaf a wyddys; fe'i cyhoeddwyd yng ngwaith Hecataeus o Filetos ar ddaearyddiaeth.
[golygu] Ffynhonnell
- Jonathan Barnes, Early Greek Philosophy (Llundain, 1987). Ymdriniaeth ar feddwl Anaxímandros gyda'r dyfyniadau o'i waith sydd wedi goroesi (tt. 71-77).
[golygu] Cysylltiad allanol
- (Saesneg) Internet Encyclopedia of Philosophy — Anaximander
- (Saesneg) Anaximandros (Saesneg)
- (Saesneg) Encyclopædia Britannica — Anaximander
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.